top of page

 

Bywyd Newydd i’r Hen Goleg

 

Mae’r Hen Goleg, Aberystwyth yn rhan eiconig o’r Brifysgol a’r dref. Mae’i statws fel y Coleg Prifysgol cyntaf yng Nghymru a agorwyd yn 1872, a’i safle amlwg ar y prom yn denu ymwelwyr o bell ac agos i’r dref glan môr. Bu lluniau ohono ar bosteri twristiaeth, cardiau post a ffotograffau dirifedi ar hyd y blynyddoedd. Bu’n gartref i adrannau o’r Brifysgol tan 2014 ond, ar ôl hynny,  symudodd y rhan fwyaf ohonynt i Gampws Penglais lle’r oedd mwy o adeiladau pwrpasol ar gyfer addysgu a llety a mwy o gyfleoedd i’r myfyrwyr presennol astudio a chymdeithasu.

Roedd y Brifysgol yn amharod i droi cefn ar yr adeilad Gradd 1 hwn, ac aeth ati i gomisiynu syniadau am sut y gallai barhau i fod yn ganolfan ddysg a diwylliant i fyfyrwyr, trigolion ac ymwelwyr â’r dref. Penodwyd y cyn-fyfyriwr Jim O’Rourke yn Rheolwr y Prosiect a gofynnwyd i CCF am gynrychiolydd ar gyfer Bwrdd y Prosiect. Derbyniwyd y dasg gan y cyn-fyfyriwr Steve Lawrence a bu modd iddo gyfrannu at y drafodaeth a chynnig syniadau datblygu a adlewyrchai lle arbennig yr adeilad yng nghalonnau cynifer o aelodau CCF.

Dyma sydd gan Steve Lawrence, Cynrychiolydd CCF ar Fwrdd y Prosiect i’w ddweud: -

"Mae’r Hen Goleg yn un o adeiladau hanesyddol pwysicaf Cymru a bu’n ganolbwynt, ers 1872, i genedlaethau o fyfyrwyr Aberystwyth. Bydd adfer ac ailddelweddu’r adeilad yn sicrhau dyfodol iddo fel canolfan ryngwladol ar gyfer diwylliant, dysg a menter. Drwy’i chynrychiolaeth ar fwrdd y prosiect a’i chyfraniad sylweddol at Apêl yr Hen Goleg, mae CCF wedi gwneud cyfraniad aruthrol a diamheuol i lwyddiant y fenter gyffrous a hanfodol hon.”

Yn Ionawr 2020 ar ôl tair blynedd a rhagor o waith caled a chynllunio, cyhoeddwyd bod y cynlluniau i ailddatblygu’r Hen Goleg yn helaeth wedi cael cyllid sylweddol o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Roedd hyn yn newyddion cyffrous dros ben i bawb a oedd yn ymwneud â’r cynllun ond hefyd yn ddechrau cyfnod arall o waith caled iawn. Mae hefyd yn ddechrau cyfnod dwys arall o godi arian, gan ddechrau gyda’r myfyrwyr sydd â chynifer o atgofion melys o’r adeilad.

Mae’r Brifysgol wedi cydnabod pwysigrwydd yr adeilad i CCF, a neilltuwyd swyddfa ac ystafell gyfarfod i ni yn yr Hen Goleg. Mae’r cynlluniau diweddaraf yn cynnwys man cyfarfod i ni uwch ben mynedfa Stryd y Brenin, a swyddfa fach wrth ei ymyl sy’n edrych dros y môr. (Gweler y llun)

Darllenwch ragor o wybodaeth am y prosiect a manylion y dewisiadau rhoi a fydd yn cydnabod eich cyfraniad yn saernïaeth yr adeilad am flynyddoedd i ddod.

 

bottom of page