top of page

Gwybodaeth am CCF

Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth yw’r sefydliad i alumni sy’n unfryd yn eu hoffter o’r Brifysgol annwyl a hanesyddol ger y lli ac ar y bryn, ac yn eu hawydd i’w helpu i ymateb i heriau’r oes fodern.

Mae CCF yn un o’r cymdeithasau alumni hynaf ym Mhrydain Fawr ac yn yr un modd â chymdeithasau colegau hanesyddol eraill, mae gan CCF Aberystwyth lais sy’n cael ei barchu ar faterion sy’n effeithio ar y Brifysgol a’i myfyrwyr. Mae’r Gymdeithas, fel y Brifysgol hithau, wedi esblygu dros amser ac mae’n fodd bellach i fyfyrwyr y presennol a’r gorffennol barhau i fod yn rhan o gymuned Aber a bod yn unedig yn eu cyfeillgarwch a’u brwdfrydedd dros Aber, gan rannu pwrpas cyffredin i sicrhau bod “Ysbryd Aber” yn parhau.

Mae’r ffi aelodaeth oes yn daliad untro, a defnyddir yr arian i helpu i gefnogi prosiectau a mentrau a fydd yn fodd i fyfyrwyr barhau i ffynnu yn yr amgylchedd arbennig hwn. Mae CCF yn ymgysylltu’n weithredol â myfyrwyr presennol, yn gwrando ar eu hawgrymiadau a’u pryderon ac yn llais annibynnol ar faterion y Brifysgol.

Llywodraethir CCF gan gyfansoddiad modern a goruchwylir ein gweithgareddau gan Bwyllgor etholedig sy’n cyfarfod bob tri mis. ​

Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar benwythnos yr aduniad blynyddol ac mae’n agored i holl aelodau CCF. ​

​Er mwyn i Ysbryd Aber godi ac i Brifysgol Aber ffynnu, ymunwch â CCF heddiw.

Cynigir aelodaeth oes i holl gyn-fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth (neu Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Prifysgol Cymru Aberystwyth, y Coleg Llyfrgellwyr a Choleg Amaethyddol Cymru) am £20 yn unig.

bottom of page