Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr
Hanes Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr
Erbyn 1892, roedd nifer myfyrwyr Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth wedi tyfu i oddeutu 350, yr oedd rhyw 150 ohonynt yn fenywod. Roedd nifer cynyddol o “gyn-fyfyrwyr” ac yn 1880, ffurfiwyd Clwb Coleg Aberystwyth yn Rhydychen. Roedd Tom Ellis, a ddaeth yn aelod seneddol y Sir, a Thomas Francis Roberts a ddaeth yn Brifathro’r Brifysgol yn 1891, ymhlith yr aelodau. Roedd Ysbryd Aber yn amlwg yn barod.
Byddai cyn-fyfyrwyr a oedd yn dychwelyd i Aberystwyth yn ymgynnull yn anffurfiol gan ymuno’n hwylus ym mywyd cymdeithasol y myfyrwyr presennol. Yn Chwefror 1892, anfonwyd llythyr gan gyn-fyfyrwyr a oedd yn dal i fyw yn Aberystwyth at ryw 850 o gyn-fyfyrwyr, yn eu gwahodd i Aduniad ar Ddydd Gŵyl Dewi. Wrth chwilio trwy Gofnodion y Gofrestr am y rhai a lofnododd y llythyr hwn, gwelwn fod y rhan fwyaf ohonynt yn dod o Aberystwyth neu o fewn 30 milltir i’r dref, felly mae eu cynnig i helpu i drefnu llety ar gyfer myfyrwyr eraill yn ddealladwy. Fodd bynnag, roedd un yn dod o Ystalyfera ac un arall yn dod o Drecastell. Diddorol hefyd yw darllen y cofnod o swyddi tadau’r myfyrwyr yn y cofrestri, a oedd yn cynnwys Ffermwyr, Groseriaid a Chryddion, yn ogystal â Masnachwr Coed, Capten Llong, Sarsiant yr Heddlu, Cigydd, Bragwr a Chrwner y Sir. Cafodd y gwahoddiad dderbyniad da, a daeth rhyw 300 o fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr, staff ac aelodau o’r Cyrff Llywodraethu i’r swper a gynhaliwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 1892 lle cafwyd llwncdestunau ac areithiau niferus, ac adloniant yn y Neuadd Arholiadau.
Drannoeth, daeth y cyn-fyfyrwyr ynghyd eto a chytuno i sefydlu Cymdeithas ffurfiol. Penodwyd Tom Ellis yn Llywydd a pharhaodd yn y swydd nes ei farwolaeth annhymig yn 40 oed yn 1899. Penodwyd y Prifathro T. F. Roberts yn Is-lywydd. Yn ddiweddarach, comisiynodd CCF y portread o T F Roberts a ddangoswyd yn gynharach, ar gyfer y Coleg. Bu farw yn 1919 ac yntau’n 57 oed yn unig.
Amcan cyhoeddedig cyntaf y Gymdeithas oedd dileu Dyled y Coleg o ran yr adeiladau, swm o £8000 neu oddeutu hynny a fyddai’n werth ychydig llai na £1 miliwn heddiw. Nodau’r Gymdeithas oedd bod yn gorff gwirfoddol a oedd yn annibynnol ar y Brifysgol, hyrwyddo lles y Coleg a galluogi cyn-fyfyrwyr i gadw mewn cysylltiad. Cytunwyd hefyd i gynnal Aduniad Blynyddol. Mae’r nodau hynny yn parhau mewn egwyddor hyd heddiw a chynhaliwyd Aduniad Blynyddol CCF ym Mehefin 2019 ar y cyd â dathliadau canmlwyddiant Interpol a Gorsaf Bridio Planhigion Cymru (IBERS bellach). Roedd cynlluniau i gynnal aduniad 2020 i ddathlu hanner canmlwyddiant yr Adran Gyfrifiadureg, ynghyd â chanmlwyddiant Dysgu o Bell ond bu’n rhaid gohirio’r dathliadau oherwydd COVID-19.
Wrth reswm, ni chynhaliodd CCF aduniadau ffurfiol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac roedd yr un a gynhaliwyd yn 1919 yn benodol i goffáu’r meirwon.
I ddathlu Jiwbilî’r Brifysgol yn 1922, lansiodd CCF apêl ar gyfer Undeb Myfyrwyr, gan gynnig y geiriau canlynol o gyfiawnhad:-
“… Bu llawer o gyn-fyfyrwyr yn teimlo ers amser maith yr hoffent wneud cyfraniad – yn bersonol ac yn gorfforaethol ar yr un pryd – nid fel tâl, ond fel cydnabyddiaeth o’r ddyled sydd arnynt i “Aber”. Mae’r Rhyfel wedi cyffroi llawer o atgofion dwys a llawen, am oriau yn y “Cwad” ac ar y “Prom”. Prin yw’r colegau amhreswyl lle bydd myfyrwyr yn profi’r fath gyfeillgarwch cryf, ac mae Aduniadau’r Pasg yn brawf o ddyfnder a natur barhaus y cyfeillgarwch hwnnw ... Prif swyddogaeth Undeb yw bod myfyrwyr yn addysgu myfyrwyr, ac nid yw’r addysg honno’n llai effeithiol am ei bod hi’n digwydd yn ddiarwybod ac yn gymysg â mwynder. Prin y gellir gorbwysleisio pwysigrwydd cyfraniad yr Undeb yn Rhydychen a Chaergrawnt, Glasgow a Chaeredin. Yn neuaddau trafod yr Undebau hyn, bu sawl gŵr a ddaeth wedyn yn arweinydd cenhedlaeth ym myd gwleidyddiaeth ac ysgolheictod, yn miniogi’i ddeall ar lwyfan cyhoeddus; yno bu myfyrwyr yn ysmygu ac yn cyd-chwarae mewn ystafelloedd clwb, gan ddysgu goddefgarwch a datblygu’n gymeriadau mwy cytbwys. Ni all y rheiny sy’n fwyaf cyfarwydd â cholegau Cymru lai na gofidio bod ein myfyrwyr, hyd yma, wedi cael eu hamddifadu o’r meysydd gwych hyn ar gyfer meithrin dinasyddiaeth a dyngarwch.
…. Bydd yr adeilad hwn yn cynnwys neuadd ganolog, gan gynnig cyfleusterau llawn ar gyfer cyfarfodydd, dadleuon, cyngherddau a chynhyrchu dramâu. Bydd ystafelloedd darllen hefyd, ac ystafelloedd ysgrifennu, ystafell ysmygu ac ystafell fwyta. Neilltuir rhan o’r Undeb ar gyfer dynion a rhan ar gyfer y menywod, a bydd rhan ohono i’r ddau ryw ... Dylai’r Undeb gynnwys cofebau personol i’r ddau Brifathro. Credwn hefyd y byddai’r Undeb, trwy gofio’r sylfaenwyr, yn fath gorau o goffa i’r Cyn-fyfyrwyr a fu farw dros eu gwlad. Credwn, pe baent yma o hyd, y byddent yn croesawu’r ymdrech hwn i gynnig cyfleoedd helaethach am gyfeillgarwch a hamdden, nac y cawsant hwy eu hunain, i’r cenedlaethau o fyfyrwyr sydd i ddod”.
Prynwyd yr Ystafelloedd Cynnull ym Maes Lowri yn Undeb Myfyrwyr yn 1922 a chafodd y cofebau, a rhai eraill a oedd yn berthnasol i CCF, eu gosod ymhen hir a hwyr yn y Cwad yn yr Hen Goleg. Trawsgludwyd Undeb y Myfyrwyr yn ffurfiol i’r Coleg yn 1936. Agorodd adeilad newydd Undeb y Myfyrwyr ar gampws Penglais yn 1970.
Bu’r Brifysgol yn dathlu’r trigain yn 1932, ac yn ei ymateb i lwncdestunau mewn cinio dathlu, bu’r Athro Edward Edwards yn dadansoddi “Ysbryd Aber” ac yn ei esbonio. Dywedodd “Un rheswm drosto, yn fy marn i yw, yw’r berthynas ddeallusol glos sy’n bodoli rhwng y myfyrwyr a’r staff ... tref fach yw Aberystwyth ... Felly, pan ddaw’r myfyrwyr yma, byddant yn ffurfio eu cymdeithas eu hunain. Bydd ganddynt eu cyfarfodydd min nos, eu cae pêl-droed ... “Consti”; Pen Dinas; a’r prom hyfryd – lle byddant yn “Cicio’r bar” ... a bydd y “Cwad” ganddynt ... Drwy gymysgu’r rhain i gyd gyda’i gilydd, rhoir i ni “Ysbryd Aber”.
Yn 1934, dosbarthwyd llythyr i sefydlu Cangen o CCF yn Aberystwyth. Gwahoddwyd y darpar aelodau i ddod â’u “gŵr neu wraig” os oedd un ganddynt “a chyfrannu chwecheiniog tuag at gostau coffi a bisgedi”. Mae’r gangen hon yn dal i gyfarfod yn rheolaidd dros baned o goffi ac yn trefnu gweithgareddau yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â chefnogi’r prosiect i drawsgrifio’r cofrestri cynnar mewn cyfarfodydd wythnosol.
Yn 1935 gwahoddwyd CCF i enwebu dau aelod i wasanaethu ar Gyd-bwyllgor y Coleg a’r Myfyrwyr a oedd yn gyfrifol am redeg Undeb y Myfyrwyr, y Caeau Athletau a’r Cynllun Meddygol. Roedd hwn yn gam arloesol gan y Brifysgol, a oedd yn cydnabod diddordeb parhaus CCF mewn llesiant myfyrwyr.
Roedd y ddadl fawr ar ddechrau’r 1930au yn ymwneud â’r angen am gyllid i ehangu’r coleg ar dir ar Riw Penglais a gynigiwyd iddo gan y Dr Joseph Davies Bryan, cyn-lywydd CCF. Roedd amharodrwydd i adael y ‘Coleg ger y Lli’ ar y pryd, a bu’n anodd codi arian ar gyfer yr Adeiladau Newydd. Yn 1935 fodd bynnag cynigiodd yr Arglwydd Davies hyd at £10,000 o arian cyfatebol (gwerth bron i £710,000 heddiw) pe gallai CCF gasglu rhoddion cyn pen y deng mlynedd ddilynol. Erbyn 1944, cyrhaeddodd CCF y targed o ran yr arian cyfatebol. Roedd hwn yn gyflawniad sylweddol o ystyried bod cyflogau’r mwyafrif o fyfyrwyr a oedd yn gweithio rhwng y ddau ryfel byd yn fach, a bod yr ail Ryfel Byd wedi torri ar draws hynny hefyd. Unwaith eto, daeth y teyrngarwch a’r ymrwymiad i’r Coleg a nodweddai Ysbryd Aber i amlygrwydd.
Pan agorwyd Pantycelyn, sef y neuadd breswyl bwrpasol gyntaf ar gyfer y dynion ar Riw Penglais yn 1951, roedd y broses o symud o’r Coleg ger y Lli i’r Coleg ar y Bryn wedi cael ei thraed dani. Ni fu ymdrechion CCF i godi arian mor llwyddiannus ag y buont yn y gorffennol. Yn 1958 gwnaed apêl benodol ar gyfer campfa a neuadd chwaraeon newydd ac yn y pen draw, cyllidwyd tua hanner costau’r ganolfan newydd a agorodd yn 1964 gan CCF. Er mwyn ceisio hybu diddordeb pellach mewn cefnogi’r campws newydd, cynhaliwyd Aduniad CCF ar gampws Penglais yn 1964, gyda llety’n cael ei gynnig i’r rhai a oedd yn bresennol yn Neuadd Pantycelyn. Daeth Pantycelyn yn Neuadd Gymraeg yn 1974 ac fe’i hailagorwyd ym Medi 2020, ar ôl gwaith adnewyddu helaeth.
Cyfrannodd aelodau CCF at gost Capel “dros dro” y Coleg, a agorwyd yn 1970. Dywed y daflen wreiddiol a ddathlai agoriad y Capel fod “cynllun datblygu’r Coleg ar gyfer campws Penglais yn cynnwys Capel parhaol ar gyfer y Coleg, y gobeithiwn y caiff ei adeiladu heb lawer o oedi”. Fodd bynnag, ni ddaeth adeilad arall i’r golwg, ac mae’r Capel bellach yn ystafell Ffydd, a gafodd sylw ar raglen Songs of Praise o Aberystwyth yn 2019. Yn Awst 1971, agorwyd y Neuadd Fawr ac adeilad newydd Undeb y Myfyrwyr yn swyddogol. Dyma oedd gan y Dirprwy Ganghellor, yr Arglwydd Morris o Borth-y-Gest i’w ddweud:- “Rwy’n sicr bod y rhai na chafodd y fraint o ddod i’r coleg hwn wedi sylwi bod gan ei gyn-fyfyrwyr yn eu meddiant a’u hetifeddiaeth fath arbennig iawn o deyrngarwch nad oes modd ei ddadansoddi’n fanwl-gywir, ond y mae modd ei ddisgrifio, a’i ddeall, fel Ysbryd Aber. Mae’n hofran fel angel gwarcheidiol, yn coleddu anrhydedd y coleg ac yn barod i drechu pob ymosodwr ... Mewn rhai trefi prifysgol, mae perygl o wrthdaro neu elyniaeth rhwng y dref a’r coleg ... Mae Aberystwyth yn ymfalchïo yn y Coleg ac mae’r Coleg yn gryfach am ei fod yn rhan o wead y dref. Bu’r ddwy ochr yn cydweithio er lles y naill a’r llall gan ymfalchïo yn ei gilydd”.
Yn yr un seremoni, cyfeiriodd y Prifathro, Syr Goronwy H. Daniel, at y ffaith fod “y Coleg wedi cael anhawster i gyllido cloch y clochdy ... Mae ein dyled yn fawr i Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr am rodd o £900 i dalu am y gloch hon. Mae ei chyfraniad yn enghraifft arall o’r cysylltiadau cryf sy’n rhwymo ein cyn-fyfyrwyr i’r Coleg.”
Aelod pwysig o CCF yn fwy diweddar oedd Emrys Wynn Jones. Bu’n Gofrestrydd Prifysgol Aberystwyth yn ogystal ag yn gyn-fyfyriwr a bu’n gyfrifol am sefydlu Archif y Gymdeithas, ac am y trefniadau gwych sy’n sicrhau’i bod ar gael trwy’r Llyfrgell Genedlaethol. Yn 1992, ysgrifennodd hanes CCF yn y gyfrol “Fair may your future be” (sy’n ddyfyniad o Gân Coleg Aberystwyth a ysgrifennwyd yn 1895).
Dathlwyd canmlwyddiant CCF yn 1992 gyda gwahanol giniawau a dawnsfeydd. Agorwyd arddangosfa “Canrif o fywyd myfyrwyr!” a luniwyd gan y Dr a Mrs W J Anthony Jones gan Lywydd y Coleg. Cynhaliwyd cyngerdd yn y Neuadd Fawr ar 25ain Mawrth ar gyfer perfformiad cyntaf “In Arcadia” gan y cyfansoddwr a’r cyn-fyfyriwr William Mathias. Mewn llythyr a ysgrifennwyd ar ôl y digwyddiad, dywedodd “Cerddoriaeth, Hen Ffrindiau ac Aber ar ddiwrnod gwyntog – beth mwy y gallai dyn ofyn amdano? ... Yn sicr, mae “Arcadia” wedi magu’i fywyd ei hun – ond caiff ei gysylltu ag Aberystwyth am byth.” Lansiwyd Apêl Canmlwyddiant CCF a bu’r arian a godwyd yn ei sgil yn fodd i agor Labordy Iaith newydd maes o law yn 1998.
Lansiwyd Prom – y Cylchgrawn Alumni yn 1992 pryd y ffurfiwyd Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni (DARO) y Brifysgol. Mae CCF yn gwerthfawrogi’r berthynas agos sydd rhyngddi a’r swyddfa hon, a’r cymorth y mae’i staff yn ei roi i’r Gymdeithas. Rydym yn cydweithio’n agos bellach ar gynlluniau newydd, cyfathrebu â’r aelodau a’n digwyddiadau arferol fel yr Aduniad Blynyddol, yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Frenhinol Cymru. Mae canghennau CCF yn weithgar o hyd yn Aberystwyth, Caerdydd, Llundain, Bangor a Gogledd Cymru, a Malaysia.
Cafwyd addewid o roddion gan aelodau CCF i Brosiect yr Hen Goleg ac mae codi arian hael yn dal i ddigwydd ar gyfer ysgoloriaethau a bwrsariaethau myfyrwyr a chynlluniau eraill. Mae aelodaeth graidd CCF yn cynnwys 9500 o Aelodau Oes llawn, ond mae’r holl alumni ers 2017 wedi cael eu cofrestru yn Aelodau Cysylltiol sy’n cael negeseuon am ddigwyddiadau os bydd angen. Credwn fod rhyw 93,000 o gyn-fyfyrwyr ar ôl felly mae digon o Ysbryd Aber o gwmpas o hyd.