top of page

 Polisi Preifatrwydd

 

Preifatrwydd ein hymwelwyr yw un o’n blaenoriaethau pennaf ar wefan CCF sydd ar gael yn www.osaaber.org. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn cynnwys y mathau o wybodaeth a gesglir ac a gofnodir gan CCF a sut y byddwn yn ei defnyddio.

Os bydd gennych gwestiynau ychwanegol neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am ein Polisi Preifatrwydd, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn ymwneud â'n gweithgareddau ar-lein yn unig ac mae'n berthnasol i ymwelwyr â'n gwefan a’r wybodaeth sy’n cael ei rhannu â CCF neu'n cael ei chasglu ganddi.  Nid yw'r polisi hwn yn berthnasol i wybodaeth a gesglir all-lein neu trwy sianeli heblaw'r wefan hon.

Cydsyniad

Wrth ddefnyddio ein gwefan, yr ydych yn cydsynio trwy hyn i'n Polisi Preifatrwydd ac yn derbyn ei delerau.

Yr wybodaeth a gasglwn

Bydd yr wybodaeth bersonol y gofynnir i chi ei darparu a'r rhesymau dros ofyn i chi ei darparu yn cael eu hegluro i chi pan ofynnir amdani.

Os byddwch yn cysylltu'n uniongyrchol â ni, mae'n bosibl y cawn wybodaeth ychwanegol amdanoch fel eich enw, eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn, cynnwys y neges a/neu'r atodiadau y gallech eu hanfon atom ac unrhyw wybodaeth arall y byddwch yn dewis ei darparu.

Pan fyddwch yn dod yn aelod o Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr, mae’n bosibl y gofynnir i chi am wybodaeth gyswllt, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ac eitemau tebyg.

Mae ein holl gofnodion aelodaeth yn cael eu cadw gan Brifysgol Aberystwyth o dan gytundeb i atal dyblygu cofnodion neu fanylion cyswllt.

Defnyddio eich gwybodaeth

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwn mewn gwahanol ffyrdd gan gynnwys:

Darparu, gweithredu a chynnal a chadw ein gwefan

Gwella, personoli ac ehangu ein gwefan

Deall a dadansoddi sut yr ydych yn defnyddio ein gwefan

Cyfathrebu â chi er mwyn rhoi'r newyddion diweddaraf a gwybodaeth arall i chi am CCF.

Anfon negeseuon e-bost atoch

Canfod ac atal twyll

Ffeiliau Log

Mae CCF yn dilyn gweithdrefn safonol wrth ddefnyddio ffeiliau log. Mae'r ffeiliau hyn yn logio ymwelwyr sy'n ymweld â gwefannau. Mae hyn yn rhywbeth y mae pob cwmni lletya'n ei wneud ac mae'n rhan o waith dadansoddi gwasanaethau lletya. Mae'r wybodaeth a gesglir gan ffeiliau log yn cynnwys cyfeiriadau IP (protocol y Rhyngrwyd), y math o borwr, y Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP), stamp dyddiad ac amser, tudalennau atgyfeirio/gadael a nifer y cliciau, o bosibl. Nid yw'r rhain yn gysylltiedig â gwybodaeth sy'n fodd i adnabod unigolion. Diben yr wybodaeth yw dadansoddi tueddiadau, gweinyddu'r wefan, olrhain symudiadau defnyddwyr ar y wefan, a chasglu gwybodaeth ddemograffig.

Cwcis a Thagiau Gwe

 

Mae gwefan CCF, fel gwefannau eraill, yn defnyddio 'cwcis'. Mae’n defnyddio’r rhain i storio gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am ddewisiadau ymwelwyr, a pha dudalennau yr oedd yr ymwelydd wedi'u hagor neu wedi ymweld â nhw ar y wefan. Defnyddir yr wybodaeth i sicrhau'r profiad gorau i ddefnyddwyr trwy addasu cynnwys ein gwefan yn seiliedig ar y math o borwr sydd gan ymwelwyr a/neu wybodaeth arall.

Mae modd i chi ddewis analluogi cwcis yn newisiadau eich porwr unigol. Mae gwybodaeth fanylach am reoli cwcis â phorwyr Gwe penodol i’w chael ar wefan y porwyr perthnasol.

bottom of page