top of page

Polisi Iaith Gymraeg

 

Mae CCF wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth allweddol mewn print ac ar ein gwefan yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac i annog ei haelodau i ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn eu cyfraniadau.

Mae CCF yn sefydliad annibynnol a chanddi aelodaeth fyd-eang ac felly nid yw'n ddarostyngedig i'r fframwaith cyfreithiol sy'n gosod dyletswyddau ar sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru. Serch hynny, yr ydym yn cefnogi nodau'r safonau hynny yn frwd, ynghyd â'r defnydd o'r Gymraeg gan ein haelodau Cymraeg.

Mae gwirfoddolwyr sy'n aelodau o'r Gymdeithas a'r Brifysgol wedi helpu i gyfieithu dogfennau pwysig y Gymdeithas i’r Gymraeg hyd yn hyn, a defnyddir gwasanaethau cyfieithu masnachol hefyd.

Pan gyflwynir eitemau newyddion yn Gymraeg yn unig neu yn Saesneg yn unig, mae'n bosibl y cânt eu cyhoeddi'n uniongyrchol ar y wefan mewn un iaith tra byddwn yn aros am gyfieithiad priodol. Croesewir cymorth gwirfoddolwyr dwyieithog â'r gwaith hwn bob amser.

bottom of page