top of page
CCF

Cangen Llundain yn clywed cynlluniau diweddaraf ar gyfer yr Hen Goleg.


Dydd Sadwrn diwethaf, roedd bore coffi rhithiol y Gangen Llundain yn cynnwys cyflwyniadau hynod ddiddorol am y cynlluniau ar gyfer yr Hen Goleg sydd yn gyflym yn dod i fodolaeth. Esboniodd Jim O’Rourke (Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg) am y syniadau diweddaraf am y brosiect tra bo Richard Roberts yn darparu diweddariad ar yr âpel i godi arian.


Atodir copi o’r sleidiau yn dangos y cynlluniau diweddaraf ynghŷd a manylion am y cynlluniau ar gyfer cydnabyddiaeth rhoddwyr.


Fe wnaeth Cara Cullen (cydlynydd ymchwil casgliadau yr Hen Goleg) nodi rhai o’r cynlluniau er mwyn arddangos rhai o gasgliadau mwyaf diddorol y Brifysgol a chofnodi atgofion myfyrwyr presenol. Byddem yn sefydlu gwefan yn fuan er mwyn cofnodi rhai o’r atgofion yma.

Comments


bottom of page