top of page
  • CCF

Creu ffilm am y newyddiadurwr Cymreig, Gareth Jones

Ebrill 21 6.00 PM

Sgwrs gyda’r Sgriptiwr Ffilmiau-Cynhyrchydd, Andrea Chalupa, ynglŷn â chreu ffilm am y newyddiadurwr Cymreig, Gareth Jones.

Enillodd Gareth Jones radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg o Brifysgol Aberystwyth ym 1926 cyn mynd ymlaen i raddio mewn Ffrangeg, Almaeneg a Rwsieg o Goleg y Drindod, Caergrawnt, ym 1929. Ar 29 Mawrth 1933, mewn cynhadledd i’r wasg hanesyddol ym Merlin, Gareth Jones oedd y newyddiadurwr cyntaf i ddatguddio bodolaeth ac ehangder yr Holodomor, newyn yn yr Wcráin a gymhellwyd gan y Sofietiaid. Yn dilyn ei ddatguddiadau, cafodd Jones a’i enw da proffesiynol eu tanseilio’n barhaus, ac mae wedi bod yn ffocws i ymgyrch ganolbwyntiedig gan y rhai hynny sy’n gwadu bodolaeth y newyn.





Andrea Chalupa

Graddiodd Andrea o Brifysgol California, Davis, gydag Anrhydedd Uwch mewn Hanes ac astudiodd Wcreineg yn Sefydliad Ymchwil Wcreineg Harvard. Mae Chalupa yn siarad yn rheolaidd am yr Wcráin a Rwsia mewn sefydliadau blaenllaw, gan gynnwys Cyngor Ewrop yn Fforwm y Byd ar gyfer Democratiaeth.

bottom of page