top of page
  • CCF

Cyfarfod 2023

Cyfarfod 2023

Cynhelir cyfarfod blynyddol y Llys dyn Sinema Ganolfan y Celfyddydau ar ddydd Iau, 11 Mai 2023, am 2:00yp.

Bydd trefn y cyfarfod fel a ganlyn:

  1. Anerchiad agoriadol gan y Dirprwy Ganghellor, Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd.

  2. Adroddiad ar waith y Brifysgol gan Gadeirydd y Cyngor, Dr Emyr Roberts.

  3. Anerchiad gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure, ar ddatblygiadau yn y Brifysgol yn ystod 2022.

  4. Cyflwyniad gan Dr Mererid Hopwood, O Aberystwyth i America: Dathlu Canmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru.

Yn unol â’r arfer yn y blynyddoedd cynt, bydd cyfle i aelodau’r Llys holi cwestiynau ar ddiwedd pob un o’r eitemau uchod.

Mae croeso i chi gyfrannu at y cyfarfod yn Gymraeg, a bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd yn cael eu darparu.

Gweinir te a choffi ar ddiwedd y cyfarfod.

Cadarnhewch eich presenoldeb trwy e-bostio saastaff@aber.ac.uk neu ffonio 01970 622048

bottom of page