top of page

Sioe Frenhinol Cymru Derbyniad y Cyn-fyfyrwyr 2022

Mae Prifysgol Aberystwyth a Chymdeithas y Cyn-fyfyrwyr yn eich gwahodd i dderbyniad y cyn-fyfyrwyr ar Faes Sioe Frenhinol Cymru* yn Llanelwedd.

Amser: 4.00yp – 5.30yp

Dyddiad: Dydd Mawrth 19 Gorffennaf 2022

Lleoliad: Pafiliwn Addysg, Stondin Prifysgol Aberystwyth G500

Dewch i sgwrsio â chyd gyn-fyfyrwyr, gwneud cysylltiadau newydd a chwrdd â hen ffrindiau a chlywed am ddatblygiadau yn y Brifysgol dros y blynyddoedd diwethaf.

Gweinir te prynhawn. Edrychwn ymlaen i’ch croesawu!

*Noder nad yw gwahoddiad i’r digwyddiad hwn yn cynnwys tocyn mynediad i’r Sioe.

bottom of page